Ymweld â'r bryniau
Cysylltiadau perthnasol
Newyddion a digwyddiadau diweddaraf
Coelcerth Tŵr y Jiwbilî ym Moel Famau i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines
16.05.2012
LLWYBR BWYD BRYNIAU CLWYD
17.04.2012
CANNOEDD DEWR YN RHEDEG MARATHON ODDI AR Y FFORDD
31.03.2012
Mwy o wybodaeth
Ar gefn beic
Erys AHNE Bryniau Clwyd yn un o drysorau cudd y byd beicio mynydd. Ceir yma rwydwaith o gannoedd o gilometrau o lwybrau beicio mynydd sy’n cysylltu â’i gilydd, a hawdd yw dianc o’r dorf i gael gweld golygfeydd syfrdanol. Ni waeth beth fo’ch gallu, mae’n sicr y cewch rywbeth sy’n addas ar gyfer eich anghenion beicio ar Fryniau Clwyd.
Yn ddiweddar, mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi cwblhau gwefan sy’n ymroddedig i feicio mynydd yn ardal Ardal Bryniau Clwyd. Yn www.ridetheclwyds.com ceir arweiniad llawn i bopeth sydd angen i fwynhau reidio beiciau mynydd yn yr ardal hon; o fapiau y gellir eu lawrlwytho i gardiau daithlenni, darparwyr llety a siopau beiciau. Cewch bopeth drwy glicio’r botwm. Ar y safle hwn gallwch weld y trywyddion drwy hedfan drostynt mewn 3D i gael blas o’r dirwedd cyn cychwyn reidio.
Hefyd, estynna Ardal Bryniau Clwyd groeso i ddau ddigwyddiad mawr heriau beicio mynydd yn ystod y flwyddyn. Denodd The Merinda 100, Kona 100 gynt, dros 1000 o gyfranogwyr y llynedd a ddaeth am benwythnos o hwyl beicio mynydd o ganol mis Medi; a Her Sir y Fflint o ganol mis Hydref a fu’n cael ei chynnal am saith mlynedd. I gael mwy o fanylion am y rhain a nifer o ddigwyddiadau beicio mynydd eraill, ewch i www.ridetheclwyds.com/beicioclwyd.
