AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Navigation

Content

Gwybodaeth am y Bryniau

Newyddion a digwyddiadau diweddaraf

Mwy o bostau

Mwy o wybodaeth

Ein Dyfodol gyda bywyd gwyllt – Cynllun Gweithredu lleol Bioamrywiaeth sir Ddinbych.

Mewn ymateb i ymrwymiad llywodraeth y DU i Gynulliad Bioamrywiaeth Rio, rhaid i bob awdurdod gynhyrchu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (LBAP).

Cynllun Gweithredu lleol Bioamrywiaeth sir Ddinbych

Bioamrywiaeth

Beth yw Bioamrywiaeth?

Bioamrywiaeth yw’r  amrywiaeth a chyfoeth y ffurfiau o fywyd ar y ddaear.

Beth yw LBAP?

Pili-palaAmcan y Cynllun yw gwarchod bywyd gwyllt lleol a gwneud yn amlwg y cynefinoedd a’r rhywogaethau yn y Sir sydd o dan fygythiad neu sy’n lleihau yn Sir Ddinbych. Mae’n cynnig gweithgaredd o flaenoriaeth a fydd yn atal y lleihad ac yn peri ei adferiad. Mater byd-eang yw Bioamrywiaeth sy’n mynnu gweithredu’n lleol drwy gydbartneriaethau ynghyd â chyfraniad y gymuned leol a nifer o sefydliadau.

Nodi a Chadw Bioamrywiaeth leol

Rhai nodweddion arbennig yr AHNE yw’r cynefinoedd fel glaswelltir calchfaen, cymoedd coediog a dyffrynnoedd. Mae’r glaswelltir calchog yn gynefin sy’n arbennig o amrywiol ac yn cynnal nifer o flodau gwyllt, fel briallu Mair a cor-rosyn, rhai rhywogaethau prin ac anghyffredin o grwynllys a thegeiriannau’r hydref. Yn eu tro, mae’r rhain yn cynnal nifer gwahanol o infertebratau gan gynnwys gloÿnnod byw a gwyfynod fel glesyn cyffredin a bwrned smotyn coch.

Lleoedd arbennig yw’r rhostiroedd ar gyfer adar y mynydd fel clochdar y cerrig, corhedydd y coed, boda tinwyn, a’r cudyll bach sy’n ymweld â’r rhostir yn ystod y gwanwyn a’r haf i fagu cywion. Ar un adeg roedd galwad y gylfinir yn sŵn cyffredin yn yr haf cyn iddynt ddychwelyd i’r aberoedd i dreulio’r gaeaf.

Mae’r dyfrwn a llygod y dŵr yn ddibynnol ar ddyfrffyrdd; yn ffodus, mae niferoedd y dyfrgwn yn dechrau codi, ond mae niferoedd llygoden y dŵr yn gostwng yn arw nid yn unig yn y sir hon ond drwy’r gwledydd hyn. Rhaid gweithredu yn awr i’w hatal rhag diflannu’n gyfan gwbl.  

Ceir 30 o gynefinoedd o flaenoriaeth ar restr bresennol Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Sir Ddinbych, nifer ohonynt yn yr AHNE. Mae rhai o’r rhain o bwys yn genedlaethol fel glaswelltiroedd calchog, rhostiroedd, coed derw, coed cymysg ynn y mynydd, gwrychoedd hynafol/llawn rhywogaethau, dolydd y tir isel, gwerni pori a chynefinoedd yr arfordiroedd. Fodd bynnag, caiff rhai eu trysori yn fwy mewn cyd-destun lleol fel llynnoedd, ochrau’r ffyrdd sy’n noddfa i fywyd gwyllt a oedd ar un adeg yn gyffredin yn y caeau cyfagos, a lleoedd agored gwyrdd yn ein trefi..

Rhestrir bron 250 o rywogaethau o flaenoriaeth, rhai ohonynt hefyd o dan fygythiad neu’n lleihau’n gyflym fel y glöyn byw y britheg berlog fawr, ystlum bedol leiaf, grugiar ddu, llygoden y dŵr, Ymhlith y mamaliaid ar y rhestr, ceir yr ysgyfarnog, pathew, dyfrgi, llygoden y dŵr, a rhywogaethau ystlumod; ac mae’r gornchwiglen, gylfinir a’r bras melyn ymysg yr adar. Amlygir rhai amffibiaid ac ymlusgiaid hefyd ynghyd â nifer o infertebratau a nifer fawr o blanhigion gwyllt gan gynnwys mwsoglau, ffwng a chen. Darparir Cynlluniau Gweithredu unigol ar gyfer llawer o’r rhain a byddant yn cael eu monitro er mwyn gallu asesu pa mor llwyddiannus a fu’r weithred o gadwraeth.  

Cadwraeth Tir Ffermio/ Arweiniad Ar Reoli Tir:
http://www.fwag.org.uk/wales/
http://www.rspb.org.uk/ourwork/farming/
http://www.gct.org.uk/

Gwybodaeth Gyffredinol Ar Fioamrywiaeth :
http://www.nhm.ac.uk/eb/ - Archwilio Bioamrywiaeth
www.nhm.ac.uk/science/projects/fff/ - Chwiliad Fflora ar gyfer eich ardal

Bioamrywiaeth Yn Rhyngwladol
http://www.cbd.int/ - Cynulliad ar amrywiaeth biolegol.
http://www.wri.org/ecosystems/ - Sefydliad Adnoddau byd - ffynhonnell o ffeithiau a ffigyrau ar fioamrywiaeth.
http://www.wcmc.org.uk/ - Canolfan Fonitro Cadwraeth Byd (yn cynnwys Rhestri coch. IUCN o anifeiliaid a phlanhigion o dan fygythiad).

Garddio Am Y Bywyd Gwyllt
www.wildlife-gardening.co.uk

Datblygiad cynaliadwy
www.sustainable-development.gov.uk - Dangosyddion bioamrywiaeth

Footer

Gwnaed gan Splinter