AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Navigation

Content

Bryngaerau

Yn ystod Oes yr Haearn, tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl, adeiladodd bobl amddiffynfeydd ar ben Bryniau Clwyd a Mynyddoedd Llantysilio.

Dinas BranRoedd y gadwyn ryfeddol hon o fryngeyrydd yn ymestyn o Foel Hiraddug yn y gogledd i Gaer Drewyn yn y de orllewin gan ffurfio un o dirweddau mwyaf hanesyddol Cymru.

Ac er bod y bryngeyrydd hyn yn nodweddion amlwg iawn ar y dirwedd, ychydig a wyddom amdanynt ac am eu perthynas â’i gilydd.

Mae Project y Grug a’r Caerau yn gyfle gwych i ddarganfod mwy am y dirwedd hon.

Mae’r project yn canolbwyntio ar chwech o fryngeyrydd : Penycloddiau, Moel Arthur, Moel y Gaer Llanbedr, Moel Fenlli, Moel y Gaer Llantysilio a Chaer Drewyn.

Efallai y defnyddid y bryngeyrydd ar gyfer sawl pwrpas gwahanol: yn amddiffynfeydd, i amaethu, yn fannau cyfarfod ac yn arwydd o statws cymdeithasol.

Moel Arthur

Footer

Gwnaed gan Splinter