AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Navigation

Content

Cynllun Rheoli

Gwelir yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ymysg tirweddau mwyaf gwerthfawr Prydain, ynghyd â’r Parciau Cenedlaethol mae eu nodweddion arbennig yn cynrychioli’r rhannau mwyaf gwerthfawr ein cefn gwlad.

Am y tro cyntaf, fe sefydlodd y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 y fframwaith ar gyfer rheoli a gwarchod yr ardaloedd hyn, a thrwy hynny fe nodwyd cychwyn cyfnod newydd iddynt. Mae’r fframwaith statudol newydd hon yn rhoi mwy o nerth i’r rhai sy’n gyfrifol am warchod yr ardaloedd hyn ac mae’n sefydlu strwythur cadarn a fydd yn darparu cyfeiriad ar gyfer eu rheoli.

Yn y cynllun hwn ceir ffordd tuag at reolaeth well, ac sydd â ffocws gwell ar gyfer Ardal Bryniau Clwyd AHNE. Mae’n nodi’r nodweddion arbennig hynny sy’n rhan o’r dirwedd, o’r cynefinoedd bywyd gwyllt sy’n bwysig yn fyd-eang i’r cofebion hanesyddol. Ond wrth nodi’r nodweddion hyn, mae’n cydnabod hefyd bod ar yr ardal ddyled i’r cymunedau sydd yn yr ardal ac o gwmpas; i’r bobl sy’n byw, gweithio, ac yn mwynhau hamddena ynddi yn ogystal ag i’r nodweddion ffisegol caled.

Noda’r cynllun y pwysau a’r materion sy’n effeithio ar y Nodweddion Arbennig hyn ac mae’n gosod rhaglen er mwyn ymateb i’r pwysau hyn. Nodwyd rhai gweithrediadau penodol a fydd yn gymorth i dargedu’r ariannu dros y pum mlynedd nesaf a sicrhau bod nodweddion arbennig yr ardal yn cael eu gwarchod a’u gwella. 

Bu ymglymiad pawb a fu’n cymryd rhan yn rheolaeth Ardal Bryniau Clwyd yn garreg filltir bwysig o ran gosod agenda ar gyfer y dyfodol. Gyda’r ymrwymiad hwn o gymunedau lleol, ffermwyr, tirfeddianwyr, ymwelwyr a chyrff cyhoeddus yn unig rydym wedi gallu cytuno ar weledigaeth ar gyfer dyfodol yr AHNE. Bu’r broses hon yn gymorth i sicrhau bod Ardal Bryniau Clwyd yn datblygu mewn cydymffurfiad ag amcanion sydd yn cael eu cefnogi’n llwyr.

O ran hyn, mae’r cynllun hwn yn gosod agenda, nid yn unig ar gyfer yr Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am ei gynhyrchu, ond hefyd ar gyfer yr holl unigolion hynny a’r asiantaethau, grwpiau a chyrff sy’n cynnal gweithgareddau sy’n dylanwadu ar y dirwedd ac sydd mewn sefyllfa i ddylanwadu ar ei dyfodol.

Bryniau Clwyd Cynllun Rheoli 2009-14

Bryniau Clwyd Cynllun Rheoli 2009-14

Roedd y Cynllun Rheoli Statudol cyntaf ar gyfer Bryniau Clwyd, a gyhoeddwyd gyntaf yn 2004, drwy ymgynghori â chymunedau lleol a rheolwyr tir, yn nodi’n glir beth sy’n gwneud yr ardal yn un arbennig. Roedd yn gosod agenda clir ar gyfer buddsoddi yn y rhinweddau a nodweddion arbennig hyn. Mae’r cynllun hwn yn adeiladu ar y gwaith hwnnw ac yn gobeithio cryfhau’r partneriaethau sy’n angenrheidiol i sicrhau newid parhaol ac effeithiol.

Mae’r cynllun hwn yn cydnabod cymaint o fanteision a gwasanaethau mae’r dirwedd yn ei ddarparu ar ein cyfer. Mae’n hanfodol yn ein bywyd bob dydd, ac yr ecosystemau bregus sy’n dal y rhwydwaith cymhleth hwn gyda’i gilydd. Mae deall y cyfraniad sydd yn rhaid i’r dirwedd ei wneud i’n lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, yn sylfaen i fuddsoddiad yn ei dyfodol.

ViewDownload

Strategaeth Twristiaeth

Strategaeth Twristiaeth

Mae’r strategaeth a’r cynllun gweithredu hyn yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu twristiaeth ym Mryniau Clwyd sy’n seiliedig ar egwyddorion cynaladwyedd, gan roi sylw llawn o’r angen i ddiogelu amgylchedd a threftadaeth arbennig yr ardal a chynnal ansawdd bywyd y cymunedau lleol.

ViewDownload

Footer

Gwnaed gan Splinter