AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Navigation

Content

Digwyddiadau

Teithiau Cerdded gydag arweinydd yng Nghefn Gwlad Sir Ddinbych

Beth ddylwn i wisgo?
Dillad sy’n llac ac yn gyfforddus. Sgidiau sydd ddim yn newydd sbon ac sydd â gafael da.

Beth ddylwn i gario efo fi?
Siwmper ychwanegol a dillad glaw os bydd y rhagolygon yn ansicr. Dewch â phecyn bwyd a llymaid, yn ôl pa mor hir fydd y daith.

Gaiff y ci ddod?

Er lles pawb sy’n dod, NI CHAIFF cŵn ddod ar y teithiau yn gyffredinol. Mae rhai teithiau’n addas i gi ar dennyn. 

Sut gaf i wybod os ydy’r daith yn mynd rhagddi?
Bydd aelod o Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn aros yn y man cyfarfod ni waeth beth fo’r tywydd. Bydd y daith yn cael ei chanslo dim ond pan fo’r arweinydd a’r aelodau’n cytuno.

Fydd i’n gallu dal i fyny?
Bydd yr arweinydd yn cerdded mor gyflym â’r cerddwr arafaf. Peidiwch â dod os ydych chi ar frys!

I gael gwybod mwy, ffoniwch  01352 810614.

O Gwmpas 2012

O Gwmpas 2012

Mae’r arweiniad hanfodol hwn i deithiau cerdded gydag arweinydd, ac i weithgareddau a thasgau cadwraeth yng Nghefn Gwlad Sir Ddinbych yn cynnig mwy o brofiadau sy’n addas ar gyfer hyd yn oed mwy o bobl.

ViewDownload

Footer

Gwnaed gan Splinter