Gwybodaeth am y Bryniau
Cysylltiadau perthnasol
Newyddion a digwyddiadau diweddaraf
Coelcerth Tŵr y Jiwbilî ym Moel Famau i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines
16.05.2012
LLWYBR BWYD BRYNIAU CLWYD
17.04.2012
CANNOEDD DEWR YN RHEDEG MARATHON ODDI AR Y FFORDD
31.03.2012
Dynodiad AHNE
Cadarnhaodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru bod Bryniau Clwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn 1985 o dan Rhan VI y Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i’r Cefn Gwlad 1949.
Pwrpas y Dynodiad
Eu prif bwrpas yw cadw tirweddau’r genedl ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol. Felly maent o bwys yn genedlaethol. Y prif bwrpas yw cadw a gwella’r harddwch naturiol a ddiffiniwyd, yn yr enghraifft hon, i gynnwys gwarchod y planhigion a’r anifeiliaid yn ogystal â nodweddion y dirwedd. Ond am fod y dirwedd wedi’i ffurfio o dan ddylanwad pobl yn y gorffennol, mae gwarchod y nodweddion archeolegol a hanesyddol hwythau, gan gynnwys y dirwedd hanesyddol a’r nodweddion pensaernïol a brodorol, yr un mor bwysig.
