Gwybodaeth am y Bryniau
Newyddion a digwyddiadau diweddaraf
Coelcerth Tŵr y Jiwbilî ym Moel Famau i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines
16.05.2012
LLWYBR BWYD BRYNIAU CLWYD
17.04.2012
CANNOEDD DEWR YN RHEDEG MARATHON ODDI AR Y FFORDD
31.03.2012
Geoamrywiaeth
Ystyr Geoamrywiaeth yw’r nifer gwahanol a chyfoethog o greigiau, mwynau, ffosiliau, tirffurfiau, priddoedd a’r prosesau naturiol sy’n ffurfio’r blaned.
Y cysylltiad rhwng y creigiau, y dirwedd y bobl a’r diwylliant yw Geoamrywiaeth.
Caiff Geoamrywiaeth ac adnoddau daearegol effaith mawr ar ein bywydau drwy lunio’r dirwedd sydd yn ei thro yn dylanwadu ar y planhigion a’r anifeiliaid ac yn pennu defnydd y tir, gan gynnwys ffermio a ble i adeiladu ein cartrefi, ein pentrefi a’n trefi. Caiff nifer o weithgareddau ddylanwad ar geoamrywiaeth ac ar dirwedd, er enghraifft, diwydiant, twristiaeth a hamdden gan gynnwys cerdded, dringo a beicio mynydd. Cafodd pobl gryn ddylanwad ar Fryniau Clwyd; o Fryngeyrydd Oes yr Haearn i gloddio am blwm ac am sbâr, i gloddio am galchfaen a ffermio. Dylanwadodd y gweithgareddau hyn ar Fryniau Clwyd yn y gorffennol ac maent yn parhau i ffurfio’r dirwedd hyd heddiw.
Deellir yn dda bod bioamrywiaeth a geoamrywiaeth yn bwysig, ond Geoamrywiaeth sy’n sail y Fioamrywiaeth. Mae Daeareg yn effeithio ar y planhigion ac ar anifeiliaid sy’n byw mewn rhyw gynefin neu amgylchedd penodol am fod y ddaeareg o danodd yn pennu’r math o bridd sydd ar yr wyneb. Os na fydd y dirwedd a’r ddaeareg yn cael eu cadw a’u rheoli yna gall y Fioamrywiaeth fod mewn perygl.
Cynllun Gweithredu Geoamrywiaeth Lleol (CGGLI)
Nod y CGGLl hwn yw hyrwyddo cydweithrediad i warchod a gwella tirwedd AHNE Bryniau Clwyd drwy gyfrwng ei threftadaeth ddaearegol wych ac i hyrwyddo a rheoli defnydd cynaliadwy o’i hadnoddau er budd cymdeithasol ac economaidd y trigolion a’r rheiny mewn ardaloedd cyfagos, ac ymwelwyr.