Y Gymuned Leol
Newyddion a digwyddiadau diweddaraf
Coelcerth Tŵr y Jiwbilî ym Moel Famau i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines
16.05.2012
LLWYBR BWYD BRYNIAU CLWYD
17.04.2012
CANNOEDD DEWR YN RHEDEG MARATHON ODDI AR Y FFORDD
31.03.2012
Mwy o wybodaeth
Enghreifftiau o SDF yn gweithredu

Taflen Cymunedau Cwm, Waun a Thremeirchion
Cynhyrchodd Cyngor Cymuned Tremeirchion, Cwm a’r Waun a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych daflen sy’n dangos nodweddion pwysig hanesyddol, diwylliannol a thirwedd yr ardal.
SDF - £4375, 50% allan o gyfanswm o £8,750

Adfer Wal Derfyn ym Mharc Gwledig Loggerheads
Adfer 225 metr o wal carreg galch sy’n ffurfio’r ffin wleidyddol rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Mae’n nodwedd sydd o bwys hanesyddol yn yr AHNE. Defnyddiwyd hen gerrig walio a ailgylchwyd, rhodd Castle Cement Ltd, sgiliau traddodiadol a chontractwr lleol.
SDF - £5287.50, 40% allan o gyfanswm o £14,625

Gwasanaeth Bws Clwyd 2003
Cefnogi gwasanaeth bws hamdden a fydd yn hwyluso teithio i rai ardaloedd anghysbell Ardal Bryniau Clwyd AHNE o Barc Gwledig Loggerheads. Yn hyrwyddo polisïau trafnidiaeth gynaliadwy a gwasanaethau drwy annog i bobl ddefnyddio cludiant cyhoeddus sy’n fforddiadwy yn lle teithio mewn ceir o fewn ac o gwmpas yr AHNE.
SDF - £5000, 15% allan o gyfanswm o £32,500
Grantiau
Y Gronfa Datblygiad Cynaliadwy (SDF)
Lluniodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru'r cynllun newydd cyffrous hwn a gydlynir gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae’n rhoi cyfle i wneud cais am gymhorthdal ar gyfer prosiectau sy’n fentrus, cynaliadwy, amgylcheddol ac sy’n dwyn i mewn y Cymunedau lleol yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ardal Bryniau Clwyd.
Beth yw cynaliadwyaeth felly?
Mae cynaliadwyaeth yn ymwneud â chadw cydbwysedd rhwng gofynion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd er mwyn cwrdd â’r anghenion presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i gwrdd â’u hanghenion hwythau yn ddigonol.
Beth yw amcanion yr SDF?
- Datblygu a phrofi dulliau o gyrraedd ffordd o fyw sy’n fwy cynaliadwy mewn cefn gwlad o harddwch eithriadol ac amrywiol.
- Cadw a gwella’r nodweddion lleol o ran diwylliant, bywyd gwyllt, tirwedd, defnydd o’r tir a chymuned.
- Cynnal lles cymdeithasol a hyfywdra economaidd Cymunedau.
Faint o arian sydd ar gael?
Bydd £50,000 ar gael ymhob un o’r blynyddoedd ariannol 2009/10 i 20010/11. Gellir gwneud ceisiadau am grantiau bach o lai na £1,000 neu am rai mwy o hyd at £25,000.
Pwy all wneud cais am ariannu?
- Grwpiau cymuned, gwirfoddol, a phartneriaethau
- Cynghorau cymuned
- Awdurdodau lleol
- Y sector breifat ac unigolion (ar gyfer projectau sydd er budd i’r cyhoedd ehangach)
Pa fathau o brosiectau caiff eu cefnogi?
Projectau a fydd yn cwrdd ag anghenion y cynllun sef:
- Cadw a gwella harddwch naturiol yr AHNE, gan gynnwys yr amgylchedd adeiledig.
- Hyrwyddo dulliau cynaliadwy o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd.
- Hyrwyddo lles economaidd a chymdeithasol y Cymunedau lleol.
- Hyrwyddo mwynhad tawel yr AHNE.
Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n :
- Cynnwys Cymunedau a phobl ifanc
- Codi cyfraniadau o ffynonellau eraill mewn arian neu ‘mewn nwyddau’
- Goresgyn rhwystrau rhag cynaliadwyaeth a hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o gynaliadwyaeth.
- Hyrwyddo dulliau cynaliadwy o ddatblygiadau cymdeithasol ac yn economaidd neu ychwanegu gwerth i’r cynllunio cynaliadwyaeth sydd eisoes yn bodoli.
- Codi ymwybod o’r AHNE a chreu swyddi neu incwm i’r Cymunedau heb niweidio’r dirwedd.
- Dangos menter neu ymarfer da.
Enghreifftiau o brosiectau y gellir eu hariannu gan SDF:
- Projectau cynaliadwy'r ysgolion fel rheoli’r tir ar gyfer bywyd gwyllt, ynni, gwastraff a mentrau lleihau traffig.
- Projectau trafnidiaeth cynaliadwy fel lleihau’r defnydd o geir a gwella’r iechyd.
- Gwella mannau agored mewn pentrefi at ddefnydd lleol (e.e. gweithgareddau’r gymuned) a bywyd gwyllt.
- Adfer nodweddion hanesyddol fel llyn y pentref, perllan gymunedol a ffiniau traddodiadol.
- Rhaglen hyfforddi i ddiogelu sgiliau traddodiadol drwy gyfrwng prentisiaeth fodern, cyfnewid sgiliau e.e. plygu gwrychoedd, codi waliau, rheolaeth gadwraethol.
Grantiau a chyfraddau grantiau
- Gall y cynllun hwn gynnig grantiau at brojectau, grantiau rheolaeth i gynnal costau staffio a grantiau datblygu i fod yn gatalydd ar gyfer gweithgareddau newydd neu bartneriaethau.
- Yn arferol, bydd y cynllun yn darparu 50% o gostau cyfanswm y project. Bydd hyd at 75% ar gael i brojectau’r sector gwirfoddol.
- Disgwylir i ymgeiswyr ddarparu o leiaf 25% o gostau cyfanswm y project, naill ai o’u cronfeydd ariannol eu hunain neu o gronfeydd fel Cronfeydd Ewrop Amcan I, Ariannu Loteri, neu o gyfraniadau ‘mewn nwyddau’.
Sut i ddarganfod mwy
I gael mwy o wybodaeth am y SDF cysylltwch â David Shiel neu Glyn Williams ym Mharc Gwledig Loggerheads.