AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Navigation

Content

Gwirfoddoli

Hyfforddiant AM DDIM, Sgiliau NEWYDD a diwrnod allan werth chweil yn y wlad.…..

O godi waliau sych a rheoli coedlannau, i gyfrif brogaod a gwrando am y rugiar ddu. Mae’r cyfle i wirfoddoli’n ddiddiwedd ac yn gyffrous.

Mae ein Tîm Cefn Gwlad yn fedrus, yn effeithiol, wedi’u hyfforddi i safon uchel ac yn brofiadol o ran darparu tasgau ymarferol.

Pam mae pobl yn gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych? Dyma a ddywed ein harolwg..……

  • Gwneud rhywbeth sy’n bwysig
  • Mae’n hwyl
  • Gwaith corfforol da yn yr awyr iach
  • Gallwch weld effaith eich gwaith
  • Edrych yn dda ar fy CV
  • Hoffwn wneud y gwaith am fy mywoliaeth

Mae’r holl dasgau ymarferol yn cychwyn am 10 am ac yn dod i ben rhwng 3 a 4 pm.

Gwisgwch ddillad y gallwch eu baeddu ac esgidiau cyfforddus sy’n gafael yn dda..

Cofiwch am eich dillad glaw a phecyn bwyd.

Rhoddir hyfforddiant llawn. Gofalwch bod eich pigiad tetanws yn gyfredol.

Dewch i gael blas ar ein tasgau ymarferol drwy gymryd rhan yn un o’n digwyddiadau. Ffoniwch 01352 810614 am fwy o fanylion.

Rhaglen Gwirfoddolwyr - Ebrill i Fedi 2012

Rhaglen Gwirfoddolwyr - Ebrill i Fedi 2012

Mae yna ystod o gyfleoedd i chi gymryd rhan yng ngwaith Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych – ac mae arnom angen eich help! O’r Rhyl a Phrestatyn yn y gogledd ar hyd Fryniau Clwyd i Hiraethog a Dyffryn Dyfrdwy yn y de – gallwch ymuno’n achlysurol neu bob wythnos – chi piau’r dewis.

ViewDownload

Footer

Gwnaed gan Splinter