Gwybodaeth am y Bryniau
Cysylltiadau perthnasol
Newyddion a digwyddiadau diweddaraf
Loggerheads yn codi’r Faner Werdd fel un o’r goreuon !
28.07.2011
Gwobr AHNE Bryniau Clwyd yn mynd i’r Raven Inn.
20.07.2011
Ceffylau ar Moel Findeg
09.06.2011
Gwybodaeth amdanom ni
Ystyrir Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn rhai o dirweddau mwyaf gwerthfawr Prydain ac, ynghyd â’r Parciau Cenedlaethol, mae eu cymeriad arbennig yn cynrychioli ein lleiniau cefn gwlad gwychaf a mwyaf gwerthfawr.
Ffurfia Ardal Bryniau Clwyd gadwyn, sy’n 35km o’r gogledd i’r de, o fryniau tonnog sy’n ymestyn at 160 km sgwâr ac yn codi i 554 metr ar gopa Moel Famau yng nghanol yr ardal. Ymestynna’r moelydd o Ddyffryn Clwyd yn y gorllewin i fryniau Aber y Ddyfrdwy yn y dwyrain; o Fryn Prestatyn yn y gogledd i fwlch Nant y Garth yn y de.
Gwelir y bryniau ar eu gorau o Ddyffryn Clwyd, lle mae rhostiroedd grug agored ar y gefnen uchel yn edrych dros y caeau bach a’r coedlannau ar y llethrau isaf.
Mewn ambell fan, ceir brigiadau o graig galch ar darenni coediog deniadol, ac ar ymylon yr ardal mae’r tir amaethu cyfoethog yn flaendir bugeiliol mwyn i’r moelydd.
Yn draddodiadol, bu’r AHNE yn gyrchfan gwibdeithiau am y diwrnod i bobl Ardal Glannau Mersi a sir Gaer. Daw nifer fawr o ymwelwyr yma ac yn enwedig i Barciau Gwledig Loggerheads a Moel Famau. Rhed Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa ar hyd y rhan fwyaf o gefnen y moelydd.
I gael mwy o wybodaeth am yr AHNE ffoniwch Barc Gwledig Loggerheads - 01352 810614