AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Navigation

Content

Hafan i Rheolwyr Tir

Mae rheoli’r rhostiroedd yn hanfodol; gall olygu bod y tir pori’n gwella a bod nifer yr anifeiliaid plagus yn gostwng. Mae modd  bugeilio’r defaid drwy reoli’r tir, ac oherwydd y rheoli efallai byddant mewn cyflwr gwell pan fyddant yn gadael y mynydd.  Hefyd,  bydd rheoli fel hyn yn cael dylanwad da ar y bywyd gwyllt sy’n byw ar y rhostiroedd grugog.  Bydd rheoli parhaus yn lleihau’r risg o danau gwyllt dinistriol a’r effaith  caiff y tannau hyn yn y tymor hir.

Bu rheoli’n fwy anodd yn ystod y blynyddoedd diweddar, a hynny am nifer o resymau fel y  newid mewn arferion amaethu a’r nifer o weithwyr sydd ar gael, ond eto mae’n dal yn  bosibl, ac yn dal yn bwysig. Mae’r canllawiau hyn yn eich tywys chi drwy’r broses o dorri, llosgi, rheoli’r rhedyn a sut i roi gwybod am ddefnyddio cerbydau yn anghyfreithiol.

Llosgi

Mae llosgi grug yn ddull effeithiol dros ben o roi cymorth i blanhigion y mynydd i adfywio. Bydd y gwres a'r mwg yn agor hadau'r grug sydd ynghwsg yn y pridd ac yn hyrwyddo'r egino. Ar ôl llosgi'r hen rug, mae planhigion y mynydd yn adfywio yn ystod y flwyddyn gyntaf -y llus i ddechrau ac yn gyflym wedyn bydd y grug yn tyfu gan greu carped porffor.

Rhaid dilyn y Cod Llosgi Grug a Glaswellt. Er mwyn peidio aflonyddu ar yr adar sy'n nythu ar y ddaear a lleihau'r risg o dannau'n ymledu'n wyllt, ceir yr hawl i losgi rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth yn unig. Golyga hyn mai ar ychydig iawn o ddiwrnodau bob blwyddyn y gellir llosgi. Mae'n weithred sy'n mynnu llawer o bobl - pedwar o leiaf i losgi'n ddiogel.

Po fwyaf y rheolir y rhostir, hawsaf y llosgi. Gellir creu lleiniau llosgi newydd drwy anelu at ardaloedd a gafodd eu rheoli'n flaenorol gan greu rhwystr tân a lleihau'r risg o danau gwyllt. Bydd y perygl o danau gwyllt yn ymledu yn llai am fod rheoli'r tyfiant wedi creu strwythur o oedrannau gwahanol ar y mynydd grug. Mae'r lleiniau a dorrwyd ac a losgwyd yn creu rhwystrau rhagorol rhag tân.

Torri

Dull arall o reoli yw torri'r grug. Y brif fantais yw y gall un unigolyn wneud y gwaith torri ar unrhyw dywydd, a gellir rheoli'r lleiniau o dir sy'n cael eu torri. Mae'r planhigion yn adfywio'n arafach ar ôl torri, gan adael cymysgfa sydd â mwy o rug ac o lus ynddi.

Cyngor ar sut i reoli rhedyn   

Rholio a thorri- Os gallwch gyrraedd y rhedyn ar dractor neu feic cwad mae cleisio a thorri'n gyson yn ffordd effeithiol o'i reoli. Yn ddelfrydol, rhaid torri a rholio rhedyn dair gwaith y flwyddyn yn y gwanwyn a'r haf. Bydd hyn yn atal ei dyfiant ac yn rhoi cyfle i blanhigion eraill gystadlu. Tybir mai rholio syml yw'r ffordd orau am fod hyn yn plygu'r goes heb ei thorri, a bydd y rhedyn yn dal i geisio tyfu ac yn defnyddio ynni. Bydd hyn yn cael dylanwad yn y tymor hir ar y planhigyn.

Chwistrellu- Chwistrellu ag Asulox yw'r dull mwyaf effeithiol yn y tymor byr o ladd rhedyn. Mae chwistrellu o'r awyr yn ddull arbennig o dda i  reoli'r llethrau serth ble na all peiriannau fynd. Bydd chwistrellu yn  95% +  llwyddiannus, ond rhaid gwneud gwaith dilynol i atal y rhedyn rhag tyfu'n ôl ar y tir a gafodd ei drin.

Gellir rheoli'r tir mewn sawl ffordd. Byddai pori'n help i dorri'r mat o redyn marw gan agor y pridd ac annog rhywogaethau eraill o blanhigion i dyfu. Ar y tir mwy gwastad, byddai ei rolio yn gymorth i wanhau unrhyw redyn sy'n ceisio dod yn ôl. Gall  chwistrellu unrhyw redyn sy'n bygwth tyfu gael ei wneud ar raddfa lai o lawer gan ddefnyddio tractor sydd â chwistrellwr bðm arno, neu sach gefn, gan ymosod ar y planhigion unigol.

Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n gyfrifol am roi caniatâd i ddefnyddio Asulox. Mae Asulox yn gymeradwy i'w ddefnyddio mewn dalgylchoedd dwr. Dywed Asiantaeth yr Amgylchedd bod angen gadael 50 m, o gwmpas unrhyw gyrsiau dwr a mannau tynnu dðr,  (100m  mewn rhai achosion).

Y Cod Llawn Ynghylch Llosgi Grug a Glaswellt

Y Cod Llawn Ynghylch Llosgi Grug a Glaswellt

Download

Canllawiau ar sut i Losgi Grug

Canllawiau ar sut i Losgi Grug

Download

Canllawiau Torri

Canllawiau Torri

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter