Ymweld â'r bryniau
Cysylltiadau perthnasol
Newyddion a digwyddiadau diweddaraf
Coelcerth Tŵr y Jiwbilî ym Moel Famau i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines
16.05.2012
LLWYBR BWYD BRYNIAU CLWYD
17.04.2012
CANNOEDD DEWR YN RHEDEG MARATHON ODDI AR Y FFORDD
31.03.2012
Mae cerbydau sy’n tresbasu’n anghyfreithiol oddi ar y ffordd yn achosi niwed mawr iawn i aceri o’r rhostir grug sy’n werthfawr i’r bywyd gwyllt ac amaethu. Os rydych chi’n dyst i weithgareddau anghyfreithiol oddi ar y ffordd dyma ganllawiau syml ichi’u dilyn.
Sut i roi gwybod am ddefnyddio cerbydau oddi ar y ffordd yn anghyfreithiol
Os gwelwch weithgareddau anghyfreithiol yn digwydd yna
• Ffoniwch yr Heddlu ar 0845 6071002 ar unwaith i roi gwybod iddynt am y digwyddiad.
Peidiwch a gadael cartref hebddo!
• Peidiwch a mynd yn agos at y defnyddwyr.
• Gwnewch nodyn o rifau’r beiciau neu o’r cerbydau a ddefnyddiwyd i gludo’r beiciau.
Ar ôl y digwyddiad
• Os oes gennych rifau cofrestru’r cerbyd, ffoniwch Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych ar 01352 810614. Anfonir yr wybodaeth at yr Heddlu.
• Llenwch ffurflen adrodd NWAIMOR (North Wales Alliance to Influence the Management of Off Roading) (hyd yn oed os roeddech wedi cysylltu â’r heddlu i ddechrau ac anfonwch at NEWIMOR neu at Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych . Gellir llwytho’r ffurflen i lawr yma ac e-bostio’n uniongyrchol at NWAIMOR a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych neu gallwch ffonio’r Gwasanaeth Cefn Gwlad ar 01352 810614 i gael copi ar bapur.
• Anfonwch unrhyw wybodaeth fel amser y gweithgaredd, lleoliad, nifer o feiciau at Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych neu eich Swyddog Heddlu Lleol.
• Cofiwch, oni bai bod rhywun yn dweud am y gweithgaredd neu’n rhoi gwybodaeth amdano, ni fydd yr awdurdodau priodol yn gwybod ei fod wedi digwydd. Po fwyaf y troseddau a adroddir amdanynt, po uchaf fydd proffil y broblem.
