AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Navigation

Content

Llinell amser hanesyddol

Yn ardal Ardal Bryniau Clwyd ceir cyfoeth o hanes amrywiol sy’n gysylltiedig â’r ffordd mae pobl wedi defnyddio’r tir ar hyd y canrifoedd. 

Mae’r llinell amser hon yn fraslun o hanes yr ardal. Ceir mwy o wybodaeth o’r Ganolfan Cefn Gwlad, Parc Gwledig Loggerheads.

Gweithia ein Harcheolegydd Sir gyda’r tîm Gwasanaeth Cefn Gwlad i sicrhau ymwybyddiaeth, cadwraeth, a gofal ein safleoedd Cefn Gwlad Archeolegol.

Enw Dyddiad

 

Safle enghreifftiol o fewn AHNE
Paleolithig Cyn c. 8000 CC Helwyr-gasglwyr Cae Gwyn a Ffynnon Beuno Tremeirchion yn dyddio i tua 30,000 cc
Mesolithig c. 8000 BC i 3500 CC Helwyr-gasglwyr Naddion fflint o ogof y lincs, Llanferres a Moel Arthur
Neolithig c. 3500 CC to 2000 CC Y ffermwyr cyntaf yn byw mewn cymunedau sefydlog Gop Cairn Trelawnydd and flint flakes indicating settlement from Bryn Llwyn, Gwaenysgor and Moel Hiraddug, Dyserth
Oes yr Efydd c. 2000 BC i c. 800 CC Ffermwyr sefydlog yn dysgu sgiliau newydd i drin metel Nifer o domenni claddu (crugiau, twmwli, carneddi) fel Moel y Parc a The Piggeries, Llanarmon yn Ial
Oes yr haearn c. 800 BC i c. 43 OC Ffermwyr sefydlog a llwythi rhyfelgar yn perffeithio’u doniau gweithio metel Nifer o fryngaerydd fel Moel y Gaer, Llanbedr, Moel Arthur, Penycloddiau a Foel Fenlli
Rhufeinig 43 OC i c. 410 OC Diwylliant goresgynnol yn dod â threfn grym milwrol a strwythur gweinyddu Ffordd y Rhufeiniaid yn croesi’r Moelydd yn Rhuallt. Darnau arian o Fryn Prestatyn a chloddfeydd plwm posib, cronfa arian mân o Foel Fenlli, Ffordd Rufeinig wrth Barc Gwledig Loggerheads
  c. 410 OC i to 1066 Datblygu tiriogaethau tywysogion Cymru, cyflwyno Cristnogaeth Daeth nifer o’r safleodd eglwysi i fodolaeth yr adeg hon, fel Llanarmon yn Iâl
Yr Oesoedd canol 1066 i c. 1500 Y Normaniaid yn goresgyn Lloegr. Gosod deddfau Lloegr yn lle deddfau Cymru Tir parciau canoloesol ym Mathafarn a Bache Graig, Cestyll mwnt a beili Cymreig yn Nhomen y Rhodwydd, Llandegla
Wedi’r oesoedd canol 1500 i’r presennol Datblygiadau tuag at y tirweddau cyfoes a’r gyfundrefn weinyddol bresennol Datblygiad pentrefi fel Llandyrnog, Cilcain a sefydlu tirweddau pictiwresg fel Gelli Aur a Cholomendy
Diwydiannol Yn bennaf yn ystod 18fed, y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif Datblygiadau technolegol yn arwain at gloddio am gyfoeth mwynau ym Mryniau Clwyd Cloddio am blwm ar Fryn Prestatyn a Dyffryn yr Afon Alun yn Loggerheads, nifer o safleoedd melinoedd ar lannau’r afonydd Chwiler ac Alun

Footer

Gwnaed gan Splinter