Lluniau'r Bryniau
Cysylltiadau perthnasol
Newyddion a digwyddiadau diweddaraf
Coelcerth Tŵr y Jiwbilî ym Moel Famau i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines
16.05.2012
LLWYBR BWYD BRYNIAU CLWYD
17.04.2012
CANNOEDD DEWR YN RHEDEG MARATHON ODDI AR Y FFORDD
31.03.2012
Lluniau o’r awyr
Arbenigwyr mewn tynnu ffotograffau o’r awyr yw Pixaerial. Lleolir y cwmni yng Ngogledd Cymru. Mae ein ffotograffwyr a’n peilotiaid ymysg goreuon y diwydiant. Maent yn defnyddio yr offer ffotograffig digidol Nikon diweddaraf sy’n rhoi cynnyrch cyflym a rhagorol.
Mae llyfrgell stoc anferth o ffotograffau o’r awyr gan Pixaerial. Caiff ei ddiweddaru’n barhaus. Hefyd, mae Pixaerial yn gweithio ar gomisiwn ac yn ymfalchio eu bod yn cyflawni gwasanaeth sy’n hollol broffesiynol ac yn rhoi gwerth rhagorol am y gost.
Yn llyfrgell Pixaerial ceir lluniau o’r rhan fwyaf o ogledd orllewin Lloegr, gogledd Cymru a chanolbarth Lloegr. Ymysg y dinasoedd threfi ceir Blackpool, Caer, Leeds, Lerpwl, Bangor, Caergybi, Caernarfon, Abertawe a Chaerdydd. Mae gennym lyfrgell eang o ffotograffau o’r holl Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru. Gwnaed y gwaith hwn yn bosib drwy gyfres o grantiau Cronfa Datblygiad Cynaliadwy a gaed drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a weinyddir gan Awdurdodau lleol Môn, Gwynedd, Sir Ddinbych ac Abertawe.
Ewch i wefan Pixaerial www.pixaerial.co.uk.
