Loggerheads a Moel Famau
Newyddion a digwyddiadau diweddaraf
Coelcerth Tŵr y Jiwbilî ym Moel Famau i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines
16.05.2012
LLWYBR BWYD BRYNIAU CLWYD
17.04.2012
CANNOEDD DEWR YN RHEDEG MARATHON ODDI AR Y FFORDD
31.03.2012
Loggerheads
Lle arbennig iawn yw Parc Gwledig Loggerheads, yn llawn o fywyd gwyllt ac o dreftadaeth ac yn lle poblogaidd dros ben i ymlacio a mwynhau harddwch yr ardal.
Daeth yn Barc Gwledig yn 1974, pan brynodd Cyngor Sir Ddinbych (Clwyd yr adeg honno), y tir oddi wrth gwmni Moduron Crosville a leolwyd yn Lerpwl. Bu’r parc yn eiddo Crosville ers 1926, a hwy a’i sefydlodd yn gyrchfan ymwelwyr. Adeiladwyd gerddi te, band stand a nifer o giosgau i ddarparu cyfleusterau i’r cannoedd o bobl oedd yn dod o Lerpwl ar y bysiau Crosville. Mae cysylltiad arbennig yn parhau rhwng pobl Lerpwl a Loggerheads.
Mae Parc Gwledig Loggerheads yn lle pwysig hefyd yn rhyngwladol ar gyfer cadwraeth ac fe gafodd ei ddynodi’n Ardal o Gadwraeth Arbennig a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Y coetir ynn a’r glaswelltir calchfaen a daeareg y parc sy’n ei wneud yn arbennig o bwysig, ond hefyd mae rhywogaethau anghyffredin neu brin yn bresennol yma, sydd o werth arbennig. Hefyd, mae Loggerheads yn manteisio ar yr Afon Alyn sy’n rhedeg drwy’r parc. Mae dyfroedd yr afon yn gartref i nifer o rywogaethau diddorol gan gynnwys y dyfrgi. Mae’r afon Alyn yn gyfnewidiol iawn ac yn enwog am ddiflannu o dan y ddaear i dyllau llyncu naturiol yng nghalchfaen gwely’r afon.
Yn y gorffennol bu Loggerheads yng nghanol y gweithgareddau cloddio, oedd ar eu hanterth yn y 1800au. Caeodd y mwyngloddiau am y tro olaf yn y 1900au, pan roedd mwyngloddio’n llai proffidiol. Mae modd gweld ei hanes yn amlwg ledled y parc, ac mae hyn yn cyfoethogi Loggerheads. Yn wir, anghydfod hir dros hawliau mwyngloddio yn y 19eg ganrif a roddodd yr enw ‘Loggerheads’ i’r ardal. Mae llwybr y Lit yntau’n ein hatgoffa o hanes mwyngloddio yn y parc, mae’n un o brif lwybrau’r ardal ac yn dilyn hen lwybr y lit neu’r sianel ddŵr. Tynnwyd dŵr o’r Afon Alun i’r olwyn ddŵr oedd bum milltir i ffwrdd, ac mae modd cerdded y llwybr heddiw.
Heddiw mae Loggerheads yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb. Mae’n lle antur i’r teulu, yn lle i agosáu at y bywyd gwyllt, i gael profiad o harddwch y golygfeydd, ac yn lle i ddianc ac i ymlacio. Mae i Loggerheads le pwysig yn y gymuned leol hefyd, gan ddenu cefnogaeth gwirfoddolwyr. Mae’r ardal ar garreg y drws i rai ac mae ymweliad yn rhan o’u harferiad dyddiol. Drwyddi draw, lle gall pobl deimlo eu bod yn rhan ohono yw Loggerheads, ac yn rhywle sy’n werth ei gadw.
Cod Post CH7 5LH