AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Navigation

Content

Moel Famau

Dyma gopa uchaf Bryniau Clwyd. Mae’n 554m (1818tr) o uchder. Ar ei phen saif Twr y Jiwbilî sy’n nodwedd adnabyddus am filltiroedd. Ffurfia Moel Famau a’r tir o gwmpas Barc Gwledig sy’n un o brif atyniadau Bryniau Clwyd gan ddenu tua 200,000 o ymwelwyr yn flynyddol.

Twr Jiwbili

Saif Moel Famau yng nghanol bryniau grug rhan ganol Bryniau Clwyd. Hawdd gweld sut mae’n sefyll ac edrych i lawr ar yr holl ardal. Un o’r llwybrau gorau i fyny Moel Famau yw Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa gyda’r golygfeydd syfrdanol o Ddyffryn Clwyd hyd at Eryri a glannau môr Gogledd Cymru.

Rhostiroedd grug sy’n gorchuddio’r mynyddoedd yma, ac maen nhw’n gynefin sy’n bwysig yn rhyngwladol. Ond rhan fach yn unig yw’r rhosydd sydd ar ôl o gymharu â chanrif yn ôl. Oherwydd coedwigaeth a gwelliannau amaethyddol fe gollwyd tua 40% ohonyn ers yr Ail Ryfel Byd.

Tir Comin yw llawer o’r Parc Gwledig, sy’n eiddo i Gyngor Sir Ddinbych, a lle caiff nifer o ffermwyr yr hawl i roi defaid i bori. Yn hanesyddol, mae’r rhostiroedd grug yn yr ardal hon yn lleoedd pwysig i ddefaid gael pori, ond i wneud yn fawr ohono rhaid rheoli’r grug yn rheolaidd.

Efallai eich bod wedi bod yn dyfalu beth yw’r siapiau rhyfedd a dorrwyd i mewn i’r grug ar Foel Famau. Dyma ran o’r rheolaeth a fu’n digwydd am genedlaethau ar y mynydd ac sy’n gyfuniad o losgi ac o dorri i hybu’r tyfiant newydd gan roi tir pori gwell i’r defaid. Mae hyn yn creu lleiniau gwych i adar yr ucheldir allu nythu a bwyta. Un o adar arbennig o bwysig yw’r rugiar ddu, un o adar prinnaf Cymru, sydd yma mewn niferoedd bach iawn - gwelwyd rhwng 10 a 15 o geiliogod yn ystod y blynyddoedd diweddar. Yn gynnar iawn ar fore o wanwyn, daw ceiliogod y rugiar ddu at ei gilydd i arddangos ac i gystadlu am ieir. Mae’r arddangosfeydd hyn yn olygfa ryfeddol ym mryniau Gogledd Cymru ac yn un sy’n prinhau bob blwyddyn. Caiff llawer o’r gwaith ar Foel Famau ei wneud i wella’r cynefin ar gyfer y rugiar ddu.

Twr y JiwbilîYn y flwyddyn 1810 yr adeiladwyd Twr y Jiwbilî ar ben Moel Famau, i goffau Jiwbilî Aur y Brenin Sior III. Yn wreiddiol roedd y twr hwn yn fwy o lawer ac roedd colofn anferth yn ei ganol oedd yn 115 o’i gwmpas. Chwythodd y golofn i lawr mewn storm yn yr 1860au ac aeth y twr yn adfeiliad nes iddo gael ei drwsio yn 1970. Erbyn heddiw mae’r Twr hwn yn gwneud Moel Famau yn lle arbennig yn erbyn yr awyr ac yn gefndir nodedig i bobl Sir Dinbych Sir y Fflint a Glannau Merswy.

Darganfod Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Darganfod Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter