Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion a digwyddiadau diweddaraf
Loggerheads yn codi’r Faner Werdd fel un o’r goreuon !
28.07.2011
Gwobr AHNE Bryniau Clwyd yn mynd i’r Raven Inn.
20.07.2011
Ceffylau ar Moel Findeg
09.06.2011
Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn gweithio i wella’r tirweddau, y bywyd gwyllt a threftadaeth Sir Ddinbych a Bryniau Clwyd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd (AHNE) gan gynorthwyo i bobl fwynhau a gwerthfawrogi eu hamgylchedd. Maen nhw’n rheoli dros 32 o Safleoedd Cefn Gwlad yn lleoedd sy’n werth talu ymweliad â nhw a’u gwarchod, rhai ohonyn nhw wedi’u dynodi’n yn genedlaethol neu’n rhyngwladol.
Darpara’r Tîm Cefn Gwlad wasanaeth integredig sy’n cynnwys; cadwraeth, bioamrywiaeth, archaeoleg, addysg, dehongli, digwyddiadau, twristiaeth gynaliadwy, mynediad, strategaeth tirweddau, ceisiadau am ariannu, rheolaeth amgylchedd ac adeiladau.
Fe gwblhaodd y tîm bychan hwn nifer o brojectau sy’n cyfrannu at fyw cynaliadwy a pharch i’n hamgylchedd. Dangosir y cyraeddiadau yn y newyddlen flynyddol. Ni fyddai’r cyraeddiadau hyn yn bosib heb ein partneriaid a’r gwirfoddolwyr rhyfeddol sy’n rhoi yn rhydd o’u hamser eu hunain, eu sgiliau a’u brwdfrydedd.
Digwyddiadau
O Gwmpas yng Nghefn Gwlad Sir Ddinbych
Dyma arweiniad hanfodol 2010 i deithiau cerdded gydag arweinydd, gweithgareddau a thasgau cadwriaethol yng Nghefn Gwlad Sir Ddinbych gan gynnig hyd yn oed fwy o brofiadau sy’n addas i hyd yn oed mwy o bobl.
Eleni, byddwn yn dathlu 25ain pen-blwydd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, a 200 ers pan osodwyd carreg sylfaen Tŵr i Jiwbilî ar ben Moel Famau. Cadwch eich llygaid yn agored am ddigwyddiadau arbennig ac ewch i www.jubileetower200.co.uk.
Gofynnir ichi fwcio i gymryd rhan yn ein gweithgareddau yn ystod y saith niwrnod cyn y digwyddiad. Os nad ydych yn gallu dod, yna rhowch wybod inni am fod gennym restr wrth gefn o bobl sy’n aros i ymuno.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau mynd O Gwmpas yng nghefn gwlad arbennig Sir Ddinbych.