Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion a digwyddiadau diweddaraf
Loggerheads yn codi’r Faner Werdd fel un o’r goreuon !
28.07.2011
Gwobr AHNE Bryniau Clwyd yn mynd i’r Raven Inn.
20.07.2011
Ceffylau ar Moel Findeg
09.06.2011
Loggerheads yn codi’r Faner Werdd fel un o’r goreuon !
28.07.2011
Mae Parc Gwledig Loggerheads wedi ei gydnabod yn swyddogol yn un o’r parciau gorau yn y wlad gyda dyfarniad statws Baner Werdd am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Mae’r Faner Werdd yn arwydd i ymwelwyr fod y parc yn cael ei gynnal a’i reoli’n dda a bod yna gyfleusterau ardderchog.
Caiff Parc Gwledig Loggerheads ei reoli’n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Bryniau Clwyd gan Gyngor Sir Ddinbych, gyda chefnogaeth gan Gyngor Sir Fflint.Dywedodd Vanessa Warrington - Swyddog Gwasanaethau Ymwelwyr: Rydyn ni’n hynod falch o fod wedi cael y wobr yma eto eleni. Rydyn ni wedi gweithio’ galed i wella cyfleusterau yma yn y 12 mis diwethaf, i ddatblygu cyfres o ddehongliadau newydd a chyffrous ar gyfer y parc a helfa gerfluniau a nodweddion mynedfa newydd.

Fe ddechreuodd cynllun y Faner Werdd yn 1996 i gydnabod a gwobrwyo’r mannau gwyrdd gorau yn y wlad. Roedd yn ffordd o annog eraill i gyflawni’r un safonau amgylcheddol uchel, gan greu meincnod o ragoriaeth mewn ardaloedd hamdden gwyrdd.
Dywedodd David Shiel – Uwch Swyddog Cefn Gwlad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd: “Mae Loggerheads yn lle arbennig iawn nid yn unig i filoedd o ymwelwyr sy’n mwynhau dod yma bob blwyddyn, ond hefyd fel un o’r safleoedd cadwraeth pwysicaf yn Ewrop felly mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud popeth yn iawn. Mae cael y wobr yma’n ganmoliaeth fawr.
“Mae’n arbennig o foddhaol fod y wobr yma’n cydnabod rôl gwirfoddolwyr sy’n helpu i reoli’r parc. Y llynedd fe wnaeth gwirfoddolwyr dros 2000 o oriau o waith cadwraeth ymarferol sy’n gyfraniad anferth i’r parc.”Gwobr AHNE Bryniau Clwyd yn mynd i’r Raven Inn.
20.07.2011
Llwyddiant Ysgubol ! - The Raven Inn, Llanarmon-yn-Iâl
Mae grŵp cymunedol yn Llanarmon-yn-Iâl wedi ei gydnabod gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd am ei ymdrechion i gadw tafarn leol ar agor. Mae Gwobr yr AHNE eleni’n mynd i’r grŵp gwirfoddolwyr a gymerodd y camau yn 2009 i ailagor eu tafarn leol a gallu adsefydlu’r Raven fel canolfan ffyniannus yng nghanol y pentref.
Rydyn ni wedi cymryd tafarnau pentref yn ganiataol yn aml - ond yn y blynyddoedd diweddar rydyn ni’n gyfarwydd, yn anffodus, â gweld drysau tafarnau’n cau am byth.
Mae’r Raven yn cael ei redeg gan grŵp bychan o wirfoddolwyr sydd nid yn unig yn gweithio y tu ôl i’r bar ond hefyd yn rhedeg y gegin, yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ac yn cadw’r gerddi. Bydd unrhyw broffid a wneir gan y dafarn yn cael eu rhoi’n ôl i mewn i brosiectau cymunedol.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Cadeirydd AHNE Bryniau Clwyd, “Mae cymunedau Bryniau Clwyd yn rhan sylfaenol o’r dirwedd eithriadol yma ac mae’r gwaith sydd wedi ei wneud yn Llanarmon i gadw’r dafarn yng nghalon y pentref yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae’r wobr hon yn un haeddiannol iawn.”
Ceffylau ar Moel Findeg
09.06.2011
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn troi at frid o ferlod hynafol am help i reoli’r Warchodfa Natur Leol ym Moel Findeg.
Mae Merlod Carneddau, brid traddodiadol sy’n mynd yn ôl dros 2000 o flynyddoedd, yn cael eu cludo i Foel Findeg i helpu i gadw’r rhostir mewn cyflwr da.Mae’r rhostir agored ar y safle’n prysur ddiflannu wrth i goed ac eithin ymledu. Bydd y merlod yn helpu i reoli hyn i gyd. Mae merlod y Carneddau’n frid gwydn o rai o’r mynyddoedd uchaf yn Eryri felly maen nhw wedi arfer pori ardaloedd yr ucheldir. Fe ddeuir â 10 o ferlod hanner gwyllt i’r Warchodfa i helpu i reoli’r prysg.

Mae'r Gwasanaeth Cefn Gwlad yn gweithio efo PONT - Partneriaeth Anifeiliaid Pori Cymru, sefydliad sy’n annog a hyrwyddo prosiectau pori, er budd cadwraeth, tirwedd a threftadaeth. Mae PONT wedi trefnu i’r merlod ddod drosodd o Eryri lle maen nhw’n pori’r llethrau uchel ar hyn o bryd.
Dywedodd David Shiel, Uwch Swyddog Cefn Gwlad Bryniau Clwyd “ Mae Moel Findeg yn ardal o rostir pwysig iawn ond dros y blynyddoedd mae wedi bod yn frwydr gyson i’w chadw’n rhydd o brysg. Mae cyflwyno pori i’r safle’n mynd i helpu i gadw’r ardal yn agored a chaniatáu i rywogaethau’r rhostir ffynnu.”Mae Cyfeillion Moel Findeg wedi darparu’r cyllid i ddod â’r merlod i’r safle ac wedi ariannu’r ffensio sy’n angenrheidiol. Fe ffurfiwyd Cyfeillion Moel Findeg ar ddiwedd y 1990au pan roedd yna fygythiad o gloddio ar y llechwedd. Roedden nhw’n gyfrwng i godi arian i brynu’r mynydd ac maen nhw’n weithredol gysylltiedig â rheoli’r safle fel Gwarchodfa Natur Leol.
Dywedodd Glyn Williams – Warden AHNE Bryniau Clwyd : “ Er mai newydd gyrraedd y mae’r merlod mae’n ymddangos eu bod nhw wedi setlo i mewn yn sydyn iawn ac rwy’n credu eu bod yn mwynhau eu cartref newydd ym Mryniau Clwyd. Cyn belled na fydd neb yn amharu arnyn nhw fe fyddan nhw’n ddigon bodlon yn bwyta coed bedw ifanc, yn sathru’r rhedyn ac yn pori eithin felly peidiwch â cheisio eu bwydo, os gwelwch yn dda.”
Ffilmiau Llanarmon yn ymuno â Chasgliad y Werin
19.05.2011
Erbyn hyn, mae archif gymunedol - a gafodd ei datblygu gan Ysgol Bro Famau ac Ysgol Penbarras drwy weithio gyda hen ffilmiau cine a dynnwyd yn yr ardal yn y 1950’au - wedi dod yn rhan o Gasgliad y Werin Cymru. Daeth ffilm cine wreiddiol William Crawford o fywyd cymunedol yn ardal Llanarmon and Llanferres ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf yn brosiect gan y ddwy ysgol. Bu’r plant yn gweithio gydag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a thrigolion hþn y gymuned i ddehongli’r ffilmiau ac i ymchwilio i fywyd y pentrefi 60 mlynedd yn ôl. Menter genedlaethol ar y we yw Casgliad y Werin yn cael ei harwain gan y Cynulliad Cenedlaethol a’r Comisiwn Brenhinol i ddatblygu archif genedlaethol a fydd ar gael ac yn cael ei chynhyrchu gan gymunedau.
Gellir gweld ffilmiau Bryniau Clwyd ar:
