Y Gymuned Leol
Cysylltiadau perthnasol
Newyddion a digwyddiadau diweddaraf
Coelcerth Tŵr y Jiwbilî ym Moel Famau i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines
16.05.2012
LLWYBR BWYD BRYNIAU CLWYD
17.04.2012
CANNOEDD DEWR YN RHEDEG MARATHON ODDI AR Y FFORDD
31.03.2012
Pobl a busnesau lleol
Amaethyddiaeth oedd prif ddiwydiant Ardal Bryniau Clwyd yn y gorffennol, ac roedd cloddfeydd pwysig o blwm yn ardal Bryn Prestatyn a Dyffryn yr Alun, ac ers Oes Fictoria bu Moel Famau yn atyniad i ymwelwyr a thwristiaid.
Yn yr ardaloedd a fu ar un adeg yn cael eu cloddio am blwm, caiff calchfaen ei gloddio. Mae nifer o chwareli yn Nyffryn yr Afon Alun gan gynnwys Burley Hill a Aberduna, sy’n cyflawni cerrig mâl i greu ffyrdd. Yn gysylltiedig â hyn, o fewn Ardal Bryniau Clwyd a’r tu allan, ceir busnesau cludiad, sy’n darparu modd i gludo’r deunydd crai i’r mannau lle bo’i angen.
Yn ôl cofnodion cyfrifiad 2001, rheolaeth a phroffesiynol yw’r ganran uchaf o’r math o waith mae trigolion Bryniau Clwyd yn ei wneud, gyda ffigyrau o tua 30% ar gyfartaledd. Mae nifer o’r rhain yn gweithio yn ardal Ardal Bryniau Clwyd, ond mae rhai yn gweithio’r tu allan. Amrywia’r niferoedd sy’n gweithio mewn amaethyddiaeth a choedwigaeth o 2% i 13%. Mae rhai o’r bobl hyn sy’n gweithio mewn coedwigaeth yn gweithio yng nghoedwigoedd Clwyd, Llangwyfan a Nercwys o fewn Ardal Bryniau Clwyd.
Dengys ffigyrau’r cyfrifiad bod rhwng 50% a 65% o bobl cymunedau ardal Bryniau Clwyd wedi’u geni yng Nghymru, a’r lleill wedi symud o leoedd eraill.
Ceir tafarnau yn y prif bentrefi, fel The Druids yn Llanferres, the Raven yn Llanarmon yn Iâl, Blue Lion yng Nghwm, a’r Cross Foxes yn Nannerch. Ceir Swyddfeydd Post mewn pentrefi fel Llanarmon yn Iâl a Bodfari. Mae rhai o’r tafarndai’n cynnig llety i ymwelwyr ac mae busnesau gwely a brecwast a hunan arlwyo o fewn Ardal Bryniau Clwyd.
Y llynedd, dechreuwyd datblygu cynnyrch bwyd yn Ardal Bryniau Clwyd a gallwch brynu mêl Moel Famau, a gynhyrchwyd gan wenyn sy’n mela ar Fryniau Clwyd, mewn siopau lleol a marchnadoedd ffermwyr.