Gwybodaeth am y Bryniau
Cysylltiadau perthnasol
Newyddion a digwyddiadau diweddaraf
Coelcerth Tŵr y Jiwbilî ym Moel Famau i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines
16.05.2012
LLWYBR BWYD BRYNIAU CLWYD
17.04.2012
CANNOEDD DEWR YN RHEDEG MARATHON ODDI AR Y FFORDD
31.03.2012
Rheoli’r AHNE
Rheolir Ardal Bryniau Clwyd AHNE drwy gyfrwng cyfres o Bartneriaethau.
Cydbwyllgor Gweithredu Ymgynghorol, sy’n llywodraethu Bryniau Clwyd, gan gynrychioli’r ddau Awdurdod lleol, tirfeddianwyr, ffermwyr, a buddiannau cadwraeth a hamddena. Mae’n adnodd grymus o ran ehangder a dyfnder ei arbenigedd gwleidyddol a phroffesiynol. Ynghyd â nifer o asiantaethau a grwpiau lleol, mae’n gweithio tuag at gyrraedd amcanion y Cynllun Rheoli AHNE.
Gorwedda tua 60% o’r AHNE yn Sir Ddinbych, a’r 40% sy’n weddill yn Sir y Fflint. Golyga hyn mai Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych sydd â’r arweinyddiaeth wrth ddarparu rhaglen rheoli a gweinyddu i’r Cydbwyllgor Ymgynghorol.
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn ddolen gyswllt angenrheidiol rhwng yr AHNE a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Drwy roi cyngor ar bolisi a darparu ariannu craidd i weithwyr a gwaith project, mae’n chwarae rôl ganolog wrth ddatblygu a chyflwyno’r cynllun rheoli. Bydd staff yr AHNE yn cyfarfod yn rheolaidd gyda’r swyddogion CCGC yn genedlaethol ac yn rhanbarthol i ddatblygu agweddau ar waith yr AHNE.
Partneriaeth Coedwigaeth
Er bod nifer o asiantaethau cenedlaethol yn cael eu cynrychioli ar y Cydbwyllgor, fe feithrinodd Ardal Bryniau Clwyd bartneriaeth arbennig gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru er mwyn cynorthwyo i ddarparu rhaglen o gynlluniau cymunedol ac i ddatblygu cynllun Addysg drwy gyfrwng y Fenter Addysg y Goedwig (FEI). Canolbwyntiau’r cynlluniau hyn yw’r tri phrif bloc o goedwig ar Foel Famau, Llangwyfan a Nercwys.
Cynllun Adfer y Rugiar Ddu
Ym Mharc Gwledig Moel Famau mae’r Gwasanaeth Cefn Gwlad yn gweithio mewn partneriaeth â’r Comisiwn Coedwigaeth a’r RSPB yn rhan o’r Project Adfer y Rugiar Ddu Cymru.
Cyfeillion Moel Findeg
Fe arweiniodd y dull cynhwysol tuag at ddatblygu rhaglen ymarferol o brojectau at sefydlu nifer o bartneriaethau allweddol gyda grwpiau cymunedol lleol. Yn benodol Gwarchodfa Natur Leol Moel Findeg sy’n cael ei rheoli mewn partneriaeth â Chyfeillion Moel Findeg a Maeshafn a Chymdeithas Wledig yr Ardal nid yn unig drwy gyfrwng grŵp llywio ar gyfer y safle ond hefyd drwy gefnogaeth ymarferol ac ariannol.
Gwirfoddoli
Mae Cymdeithas Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn gweithio hefyd gyda grwpiau o wirfoddolwyr sydd wedi hen sefydlu dros y Sir a’r AHNE. Rhoddodd dros 70 o unigolion o’u hamser yn rheolaidd i gymryd rhan yng ngwaith y Gwasanaeth.
Partneriaethau eraill
- Cadwyn Clwyd
- Cymdeithas Amgylchedd Prestatyn
- Grŵp Bywyd Gwyllt Glannau Dyfrdwy
- Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru
- Coed Cymru
- Grŵp Amgylchedd Dyserth
- Cymdeithas Gadwraethol Gwaunysgor
- Coleg Amaethyddol Llysfasi
- Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych
- Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir y Fflint
- Partneriaeth y Grug a’r Caerau