Gwybodaeth am y Bryniau
Newyddion a digwyddiadau diweddaraf
Coelcerth Tŵr y Jiwbilî ym Moel Famau i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines
16.05.2012
LLWYBR BWYD BRYNIAU CLWYD
17.04.2012
CANNOEDD DEWR YN RHEDEG MARATHON ODDI AR Y FFORDD
31.03.2012
Tirwedd Hanesyddol
Ffurfiwyd tirwedd Ardal Bryniau Clwyd, yr harddwch syfrdanol a’r nodweddion, gan genedlaethau o bobl oedd yn byw ac yn gweithio ar y tir.
Effaith miloedd o flynyddoedd o ddylanwad pobl yw’r hyn a welwn o’n cwmpas. Bu ffermio, adeiladu treflannau, cloddio am fwynau gwerthfawr ac am gerrig i gyd yn ffurfio’r tirweddau cyfarwydd a welwn heddiw ac yn cyfrannu at gyfoeth diwylliannol yr ardal a’r hynodrwydd lleol.
Bu pobl yn byw ac yn gweithio ar Fryniau Clwyd ers o leiaf 30,000 CC. Yn wir, mae ymddangosiad y dirwedd heddiw yn ganlyniad i’r ffordd mae pobl wedi rheoli’u cynefin ar gyfer ffermio, cynhaliaeth, echdyniadau, trawsgludiaeth a hamdden ers dros 5000 o flynyddoedd efallai.
Bryngeyrydd Oes yr Haearn yw’r nodweddion amlycaf ac enwocaf yn yr ardal. Maent yn ffurfio rhan bwysig o dirwedd ardal ganolog y Bryniau, ac yn dyddio o tua 800 CC i 43 OC. Amrywia’r chwe chaer o ran maint o Benycloddiau anferth i Foel Arthur fwy cryno. Safant yn bwysig ar y dirwedd heddiw fel roeddynt yn y gorffennol. Mae’n debyg mai safleoedd amddiffynnol a safleoedd arddangos oedd eu pwrpas, gan amrywio o fod yn ganolfannau rheoli i’r tiriogaethau oedd yn ymestyn i lawr i Fryniau Clwyd, dros y Dyffryn ac i fyny i’r bryniau y tu hwnt; hefyd efallai eu bod yn lleoedd i’r tylwythau gyfarfod ac yn safleoedd hafod a safleoedd defodau.
Ceir nifer o gofebion claddu Oes yr Efydd ar Fryniau Clwyd, yn dyddio o tua 2,000 i 800 CC. Ychydig o dystiolaeth sydd o anheddau, ond efallai y byddai pobl Oes yr Efydd yn defnyddio safleoedd y bryngaerau a ddaeth wedyn, yn ôl a awgryma darganfyddiad cronfa o fwyeill Oes yr Haearn ar Foel Arthur, a cheir gweithgareddau o’r fath ger Moel y Gaer, Rhosesmor.
Dyddia llawer o’r patrymau tirwedd a welwn heddiw – pentrefi a ffermydd anghysbell – o’r cyfnod hwn. Saif eglwysi canol oesol mewn nifer o’r pentrefi o fewn yr AHNE. Yn ardaloedd cyfagos Dinbych a Rhuthun, codwyd cestyll yn amser Edward 1 er mwyn i Saeson reoli tir Cymru. Eiddo Stad Castell Rhuthun oedd rhannau helaeth o Fryniau Clwyd hyd at ganol y 19 fed ganrif.
Yn ystod y blynyddoedd diweddar gwelodd Ardal Bryniau Clwyd ddatblygiad nifer o stadau tir parciau gan gynnwys Gelli Aur a Cholomendy. Datblygodd rhai stadau yn dilyn ymgyfoethogi yn sgil cynnydd y diwydiannau lleol - cloddio am blwm yn arbennig- ac mae olion cloddio yn dal i’w weld yn yr ardaloedd calchfaen. O’r pedwar tŷ injan Cernyw sy’n parhau i fodoli yn Sir Ddinbych mae tri yn gorwedd o fewn yr AHNE a’r pedwerydd yn union y tu allan..
Drwy holl ardal Ardal Bryniau Clwyd roedd dwr yn cael ei ffrwyno i gyflenwi grym ar gyfer cloddio am blwm, ar yr Afon Alun yn benodol. Defnyddiwyd yr Afon Chwiler i yrru’r melinau ŷd, gweithfeydd tin, melinau papur a melinau coed. Ar yr adeg yma fe ddechreuodd trafnidiaeth o fewn Ardal Bryniau Clwyd newid. Yn raddol, daeth cyfnod y rhwydwaith o lwybrau ar draws y Bryniau i ben, ac yn eu lle defnyddid mwy a mwy o foduron. Roedd rheilffordd yn croesi Ardal Bryniau Clwyd i’r gogledd.