AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Navigation

Content

Gwybodaeth am y Bryniau

Newyddion a digwyddiadau diweddaraf

Mwy o bostau

Mwy o wybodaeth

Ysbrydolodd yr AHNE lawer o artistiaid a llenorion enwog fel Richard Wilson, ‘tad paentiadau tirwedd’, sydd â’i luniau yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain, a Gerald Manley Hopkins a grwydrodd fryniau Tremeirchion ac ysgrifennu cerddi am y wlad o’i gwmpas.

Y Dirwedd

Mae Ardal Bryniau Clwyd yn enwog am ei bryniau grug sy’n ymestyn o arfordir Gogledd Cymru yn y gogledd i Ddyffryn yr Afon Dyfrdwy yn y de.

Moel ArthurCeir brigiadau o galchfaen mewn nifer o leoedd i lawr y gefnen ddwyreiniol - yn arbennig ar Fryn Prestatyn, Llanferres a Loggerheads - sy’n gyforiog o laswelltir cyfoethog o degeirianau a blodau gwyllt eraill sy’n hafan i’r gloÿnnod byw.

Mewn ambell fan, holltir y bryniau gan gymoedd dyfnion sy’n cynnwys dwy brif afon yr ardal, yr Alun a’r Chwiler. Bydd y ddwy yn diflannu o dro i dro o dan y ddaear i’r afonydd tanddaearol yn y calchfaen.

Cynhalia’r mathau gwahanol o dirweddau o fewn AHNE Ardal Bryniau Clwyd nifer o fathau o rywogaethau ac o gynefinoedd. Yr hyn sy’n penderfynu cynefin y bywyd gwyllt yw’r topograffi, y dŵr, pridd, hinsawdd, amaethyddiaeth a ffyrdd eraill o ddefnyddio’r tir. O fewn yr AHNE ceir amrediad o dyfiant ‘hanner- gwyllt’ gan gynnwys rhostir grug, glaswelltir calchfaen, afonydd a choedlannau.

Yn yr AHNE ceir nifer o olion archeolegol a hanesyddol o’r oes gynhanes i’r Ail Ryfel Byd. Amrywia’r safleoedd o’r Bryngeyrydd anferth Oes yr Haearn i’r arwyddion cnydau llai amlwg yn y rhannau isel.

Henebion Cofrestredig yw llawer o’r safleoedd archeolegol hyn ac maent o dan gadwraeth Cadw: Cofebion Hanesyddol Cymru. Mae llawer o nodweddion hanesyddol eraill fel cerrig ffin, ffynhonnau pentrefi, cerrig milltir heb fod o dan warchodaeth ac mewn mwy o berygl o’r  herwydd.

Mae llawer o’r safleoedd archeolegol Ardal Bryniau Clwyd yn rhannau pwysig o’r dirwedd ehangach: tystiolaeth o fwyngloddio a chwarela’r gorffennol, treflannau a chladdfeydd sy’n ffurfiol cefndir anweledig cyfarwydd ein bywyd bob dydd.

Dengys yr olion archeolegol ar ein tirwedd fod y bobl a’r cymunedau’n gymaint rhan o’r dirwedd ag yw’r blodau a’r bywyd gwyllt. Mae gan Fryniau Clwyd ddiwylliant sy’n arbennig o gyfoethog ac mae llawer o’r trigolion yn falch o’u traddodiadau. Cynhelir Eisteddfodau ledled y Sir gan ddathlu’r iaith Gymraeg, y gerddoriaeth, y farddoniaeth a’r diwylliant. Ychydig o filltiroedd yn unig o’r AHNE yn Llangollen fe gynhelir yr Eisteddfod Ryngwladol. Mae corau Cymru a’r corau eglwysig yn enwog drwy’r byd.

Footer

Gwnaed gan Splinter