Y Gymuned Leol
Newyddion a digwyddiadau diweddaraf
Loggerheads yn codi’r Faner Werdd fel un o’r goreuon !
28.07.2011
Gwobr AHNE Bryniau Clwyd yn mynd i’r Raven Inn.
20.07.2011
Ceffylau ar Moel Findeg
09.06.2011
Cymuned leol
Y Cymunedau yw calon Ardal Bryniau Clwyd AHNE.
Bu cenedlaethau o gymunedau yn ffurfio’r tir, y ffermydd, yr adeiladau ac yn creu’r dirwedd at eu gofynion. Y bobl sy’n rhoi’r naws i’r ardal, i’r diwylliant ac i’r dreftadaeth a fu’n tyfu dros y cenedlaethau.
Bu’r AHNE yn cydweithio gyda nifer o gymunedau i gynhyrchu cyfres o lyfrynnau - Pentrefi Ardal Bryniau Clwyd.
Darganfod Cwm, Waun a Thremeirchion
Saif pentrefi Cwm, y Waen a Thremeirchion yng nghanol ardal wledig hardd ac amrywiol. Mae Tremeirchion a Chwm y naill a’r llall yng nghanol Ardal Bryniau Clwyd, yn edrych dros olygfa o Ddyffryn Clwyd. I’r gwrthwyneb, mae’r Waen yn gorwedd ar lawr llydan y dyffryn, a’r caeau glas a’r gwrychoedd yn gefndir iddo.
Darganfod Gwaenysgor
Saif plwyf Gwaenysgor ar lwyfandir Trelawnyd, sy’n ardal eang ac agored o dir ffermio ar lwyfandir calchfaen. Yma a thraw, ceir planhigfeydd bach o goed conifferau ar lethrau’r bryniau, yn benodol Allt Gop sydd yn y plwyf. I’r gogledd, ceir ymyl o lethrau serth sy’n rhan o Fryniau’r Arfordir. Nid oes unrhyw ffyrdd mawr yn y plwyf.