AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Navigation

Content

Ymchwil Diweddar

Yn ddiweddar bu gwaith Palaeobotanegol yn dadansoddi craidd o fawn a ddaeth o Foel Llys y Coed.

Mae’r dyfnder o fawn 1.2m hwn yn dyddio o tua 8000  CC yn ei waelod, ac yna  ymlaen i’r presennol gan gofnodi’r newidiadau mewn tyfiant llysieuol sy’n gysylltiedig â dylanwad pobl ar Fryniau Clwyd. Yn 8000 CC roedd y rhan hon o Fryniau Clwyd yn goediog gyda choed cyll yn bennaf, ond pin, bedw a meryw hefyd. Mae yma dystiolaeth o losgi yn y coedlannau cynnar hyn sydd yn arwydd, efallai, o’r helwyr gasglwyr yn rheoli’u tirweddau er mwyn denu’r anifeiliaid i’r llennyrch a gwneud eu hela’n haws. Dengys y paill o’r craidd mawn bod tri chyfnod yn fras o newidiadau llysieuol yn amrywio o goedlannau i wern a glaswelltir yn y cyfnodau cynhanes a hanes, hyd at gyfnod grug o tua 600 CC. Yn ddiddorol iawn, gwelwyd paill ŷd o Oes yr Efydd tua 4000 o flynyddoedd yn ôl. Mae’r gwaith hwn yn tanlinellu effaith pobl ar y dirwedd ac ar gymeriad ardal Ardal Bryniau Clwyd dros filoedd o flynyddoedd.

Arolwg Archeolegol ar Foel y Gaer, Llandysilio- yn Saesneg

Arolwg Archeolegol ar Foel y Gaer, Llandysilio- yn Saesneg

Fe gomisiynwyd Engineering Archaeological Services Ltd, yn rhan o gyfnod datblygu Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Grug a’r Caerau, i wneud arolwg topograffig o Foel y Gaer, bryngaer Llandysilio.  Nod y prosiect oedd cofnodi’r gweddillion ffisegol ar y safle.

Download

Cloddiad carnedd bryngaer Penycloddiau 2009- yn Saesneg

Cloddiad carnedd bryngaer Penycloddiau 2009- yn Saesneg

Cafodd Adran Gwasanaethau Maes Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys wahoddiad gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, rhan o Gyngor Sir Ddinbych, i gynnal cloddiad archeolegol o garnedd fechan o fewn ardal restredig Bryngaer Penycloddiau.

Download

Cloddiadau Moel y Gaer Llanbedr Dyffryn Clwyd, Adroddiad Rhagarweiniol Haf 2009- yn Saesneg

Cloddiadau Moel y Gaer Llanbedr Dyffryn Clwyd, Adroddiad Rhagarweiniol Haf 2009- yn Saesneg

Cloddiadau gan Brifysgol Bangor ar gyfer Prosiect y Grug a’r Caerau.

Cafodd y cloddiadau eu hariannu gan Bwyllgor Cyhoeddiadau ac Ymchwil Gydweithredol Prifysgol Cymru yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd,  Aberystwyth

Download

AROLWG TOPOGRAFFIG Bryngaer Penycloddiau- yn Saesneg

AROLWG TOPOGRAFFIG Bryngaer Penycloddiau- yn Saesneg

Ym Mai 2006 cafodd Adran Gwasanaethau Maes Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys wahoddiad gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych i gynhyrchu dyfynbris a manyleb ar gyfer arolwg topograffig o Fryngaer Penycloddiau, yn rhan o Brosiect y Grug a’r Caerau.

Download

Adroddiad arolwg archeolegol bryngaerau Moel Fenlli a Chaer Drewyn- yn Saesneg

Adroddiad arolwg archeolegol bryngaerau Moel Fenlli a Chaer Drewyn- yn Saesneg

Fe gomisiynwyd Engineering Archaeological Services Ltd, yn rhan o gyfnod datblygu Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Grug a’r Caerau, i wneud arolygon topograffig a geoffisegol ar fryngaerau Caer Drewyn a Moel Fenlli.

Download

Arolwg Archeolegol Bryngaer Moel y Gaer, Llanbedr, Mai 2008- yn Saesneg

Arolwg Archeolegol Bryngaer Moel y Gaer, Llanbedr, Mai 2008- yn Saesneg

Nod yr Arolwg

  1. Cofnodi llinell a maint y clawdd sy’n arwain o’r fynedfa ddwyreiniol i’r ardal sydd heb ei chofnodi o’r blaen.
  2. Ymchwilio maint yr ardal sydd wedi’i llosgi ar y rhagfur mewnol.
  3. Ymchwilio lefel potensial yr anheddiad o fewn y fryngaer.
  4. Ymchwilio defnydd potensial yr anecs.
  5. Darparu hyfforddiant mewn technegau arolygu archeolegol.

Download

Arolwg Geoffisegol bryngaer Moel y Gaer, Llandysilio 2009- yn Saesneg

Arolwg Geoffisegol bryngaer Moel y Gaer, Llandysilio 2009- yn Saesneg

Nod yr Arolwg

Casglu gwybodaeth ddigonol i sefydlu lleoliad a maint unrhyw nodweddion archeolegol o fewn y fryngaer ac, os yn bosib, nodweddu’r archeoleg a leolwyd.

Download

Arbrawf Llewych y Bryngaerau

Arbrawf Llewych y Bryngaerau

Arbrawf i fforio’r rhyngwelededd rhwng deg o fryngaerau dros ogledd ddwyrain Cymru a Swydd Gaer a’u cysylltiad â’u cymunedau lleol

 

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter